Mae Grŵp Co-op wedi gwneud colledion cyn treth o £559 miliwn yn chwe mis cynta’r flwyddyn.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i adran fancio’r grŵp wneud colledion mawr gan lyncu’r elw o’i archfarchnadoedd.

Roedd Banc Co-Op wedi cyhoeddi colledion cyn treth o £709.4 miliwn yn y chwe mis hyd at fis Mehefin.