Mae protestwyr sy’n gwrthwynebu  cynlluniau i ladd 5,000 o foch daear mewn cyfnod o chwe wythnos wedi cael eu gorfodi i symud o’u safle  yn Doniford Holt ger Gwlad yr Haf.

Mae 12 o bobl wedi bod yn gwersylla ar y safle ers dydd Sadwrn er mwyn cefnogi ymgyrch i achub moch daear yng Ngwlad yr Haf a Sir Gaerloyw  lle mae cyfnod prawf o ddifa moch daear wedi cychwyn.

Roedd y protestwyr yn honni fod ganddyn nhw ganiatâd i aros ar y safle ond bore ma fe ddaeth perchennog y tir i’w symud, yn ôl cynrychiolydd o Stop the Cull.

Dywedodd Jay Tiernan: “Alla i ddim cadarnhau beth a gafodd ei drefnu hefo perchennog y tir i ddechrau ond rydym wedi dod i gytundeb ein bod yn gadael y safle erbyn 4yh heddiw.

“Rydym wrthi’n cynllunio lle i fynd nesaf. Y lle fwyaf tebygol yw tir Stad y Goron ond ni fyddwn yn gofyn caniatâd i aros yno,” dywedodd ar ôl i Stad y Goron gyhoeddi’r llynedd eu bod yn cefnogi’r cynlluniau.

Cynllun Brechu Cymru

Pwrpas y cynllun yw ceisio rheoli’r diciâu mewn gwartheg sy’n cael ei drosglwyddo gan foch daear.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cynllun brechu moch daear mewn rhannau o dde orllewin a chanolbarth Cymru ar gost o £1m y flwyddyn.

Mae’r ffigurau’n dangos fod nifer y gwartheg sydd dan gyfyngiadau symudiad oherwydd achosion o’r diciâu wedi cynyddu 15%, er bod 1,424 o foch daear wedi cael eu brechu ar gost o £662.22 yr un.