Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru wedi methu a chyrraedd targedau amseroedd ymateb o fewn 8 munud am 14 mis yn olynol.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams bod y “methiant parhaol yma yn siom fawr.”
Ychwanegodd bod y ffigyrau’n dangos mai yng Nghymru y mae’r amser ymateb gwaethaf drwy Brydain.
“Nid yw hyn yn ddigon da. Mae cyrraedd y cleifion cyn gynted ag sy’n bosib yn holl bwysig pan mae galwad categori A, y rhai mwyaf brys.
“Mae parafegyddon yn gweithio’n galed iawn ond nid ydyn nhw’n cael y gefnogaeth angenrheidiol gan Lywodraeth Cymru. Maen nhw wedi rhoi addewid i wella’r amseroedd ymateb ond mae’r ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw yn profi na ellir ymddiried yn y blaid Lafur.”
Mae Golwg 360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ei hymateb.