Mae dwy ferch ifanc wedi cael eu cyhuddo’n swyddogol o geisio smyglo gwerth £1.5 miliwn o’r cyffur cocên o Periw.

Os bydd y llys yn ceu cael yn euog, fe allai Michaella McCollum, 20, o Swydd Tyrone yng Ngogledd Iwerddo,n a Melissa Reid, 20, o Glasgow, wynebu cymaint â 15 mlynedd yn y carchar.

Mae’r ddwy wedi treulio’r pythefnos diwethaf yn y ddalfa ond mae disgwyl iddyn nhw gael eu symud i’r carchar i aros am yr achos yn eu herbyn – ac fe allai hynny gymryd cymaint â thair blynedd.

Dod o hyd i’r cyffur

Dywedodd yr heddlu yn Periw eu bod wedi dod o hyd i 24 pwys o gocên wedi ei guddio tu mewn i barseli bwyd wrth i’r ddwy ferch geisio mynd ar awyren o Lima i Madrid yn Sbaen.

Mae’r ddwy yn gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn ac yn honni eu bod wedi cael eu gorfodi i gario’r bagiau gan ddynion arfog.

Dywedodd cyfreithiwr Michaella McCollum, Peter Madden, “Mae’r amodau yn rhai caled, does dim llawer i fwyta yno ond mae hi’n cael ei thrin yn gymharol deg gan yr heddlu.”