David Cameron (o wefan rhif 10 Downing Sreet)
Mae’n ymddangos bod y Prif Weinidog wedi ymyrryd yn yr helynt tros ddogfennau cudd a phapur newydd y Guardian.

Yn ôl papur arall, yr Independent, roedd David Cameron wedi anfon ei brif was sifil i roi rhybudd i olygydd y Guardian.

Y syniad oedd fod Ysgrifennydd y Cabinet, Syr Jeremy Heywood, yn dweud pa mor ddifrifol oedd gweithredoedd y papur yn cyhoeddi gwybodaeth o ddogfennau cudd a oedd wedi eu gollwng gan yr Americanwr Ed Snowden.

Swyddogion cudd

Ddoe fe ddywedodd golygydd y Guardian, Alan Rusbridger, fod swyddogion cudd o ganolfan glustfeinio GCHQ wedi dod i swyddfeydd y papur er mwyn dinistrio cyfrifiaduron.

Mae’r Ysgrifennydd Cartref hefyd wedi cyfadde’i bod hi wedi cael gwybod ymlaen llaw am fwriad yr heddlu i arestio partner y newyddiadurwr a oedd yn sgrifennu’r straeon.

Ond mae Theresa May’n mynnu nad oedd ganddi hi ran yn y penderfyniad i atal a holi David Miranda wrth iddo fynd trwy faes awyr Heathrow ar y ffordd o Berlin i Brasil.

Roedd llywodraeth yr Unol Daleithiau hefyd wedi cael gwybod ymlaen llaw – maen nhwthau’n gwadu eu bod wedi gofyn i Lywodraeth Prydain weithredu.