Yr Arlywydd Assad (Agencia Brasil CCA 2.0)
Mae adroddiadau o Syria yn honni bod lluoedd Llywodraeth y wlad wedi defnyddio nwy gwenwynig i ladd nifer o bobol ger y brifddinas, Damascus.
Yn ôl adroddiadau gan rai o wrthwynebwyr yr Arlywydd Bashar al-Assad, fe ymosododd y lluoedd ar ardal Ghouta o’r brifddinas yn gynnar heddiw.
Dywedodd Arsyllfa Syria tros Hawliau Dynol, sydd â’i chanolfan yng ngwledydd Prydain, bod yr ymosodiad yn un ffyrnig gan daro maestrefi dwyreiniol Zamalka, Arbeen ac Ein Tarma.
Mae Pwyllgor Cyd-drefnu lleol yn datgan bod cannoedd wedi cael eu lladd yn yr ymosodiad gyda nifer fawr wedi’u hanafu – “degau” yw ffigwr yr Arsyllfa.
Dim cadarnhad annibynnol
Does dim sylw gan Lywodraeth Syria ynglŷn â’r honiadau a does dim cadarnhad annibynnol hyd yn hyn.
Yr honiad yw bod y nwy gwenwynig ar flaen rocedi a oedd wedi eu tanio gan luoedd y llywodraeth.
Yn gynharach yr wythnos yma, ymwelodd arolygwyr o’r Cenhedloedd Unedig â’r wlad i ymchwilio i honiadau fod arfau cemegol yn cael eu defnyddio gan y ddwy ochr.