Mae’r gweinidog sy’n gyfrifol am yr amgylchedd wedi dadlau o blaid rheoliadau newydd a fyddai’n gorfodi landlordiaid i roi gwybodaeth am rai o’u tenantiaid i gwmnïau dŵr.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe fyddai hynny’n helpu i ostwng biliau dŵr i’r rhan fwya’ o gwsmeriaid – maen nhw’n dweud bod dyledion drwg yn codi biliau pawb arall o gymaint ag £20 y flwyddyn.

Fe fyddai’r rheoliadau’n golygu bod rhaid i landlordiaid roi gwybodaeth i’r cwmnïau am denantiaid sy’n methu â thalu eu biliau dŵr.

Os na fydden nhw’n gwneud hynny, fe fyddai’r landlord yn dod yn gyd-gyfrifol am y bil.

Ymgynghori

Fe ddechreuodd y Llywodraeth ymgynghori am y rheoliadau ym mis Gorffennaf ond mae’r bwriad bellach yn cael sylw yn y wasg arbenigol.

Mae gan bobol 77 diwrnod arall i ymateb i’r ymgynghoriad – fe fyddai’r rheoliadau yn rhoi’r hawl i Lywodraeth Cymru weithredu yn unol â deddf sydd eisoes yn bod.

Mae’r wybodaeth y byddai’n rhaid i landlordiaid ei rhoi yn cynnwys enw, cyfeiriad, dyddiad geni a dyddiadau tenantiaeth.

Meddai’r Gweinidog

“Mae dyledion drwg yn casglu pan fydd cwmnïau dŵr yn methu ffeindio pwy sydd mewn eiddo,” meddai’r Gweinidog Adnoddau Naturiol, Alun Davies.

“Gall hyn fod yn broblem arbennig gydag eiddo sydd mewn tenantiaeth ac mae’n gallu ei gwneud hi’n anodd iawn i gwmnïau dŵr gasglu dyledion.”