Mark Tami (Steven Tattum CCA 3.0)
Mae aelod seneddol yn dweud bod colli bron 150 o swyddi yn y gogledd-ddwyrain yn “golled” fawr i’r ardal.

Doedd hi ddim yn ymddangos bod gobaith i achub cwmni llenni Montgomery Tomlinson, meddai Mark Tami, AS Alyn a Glannau Dyfrdwy.

Doedd dim argoel y byddai neb yn prynu’r gwaith ym Mrychtyn lle mae 146 o bobol yn colli eu gwaith.

Colled ‘drist’

“Mae hon yn golled drist iawn,” meddai’r AS wrth Radio Wales. “Mae’n gwmni teuluol sydd wedi bod yn mynd ers blynyddoedd lawer.

“O’r hyn yr wy’n ei ddeall does dim llawer o argoel o ddod o hyd i neb i brynu’r cwmni.

“Er bod rhai arwyddion o dwf yn yr economi, mae’n parhau’n fregus iawn ac fe fydd busnesau’n dal i fynd i’r wal.”

Galw’r derbynwyr

Roedd y derbynwyr, KPMG, wedi eu galw i’r cwmni ddoe ac fe roddodd y gorau i fasnachu ar unwaith.

Mae’n ymddangos na fydd y gweithwyr yn cael eu talu am eu gwaith y mis yma chwaith ac mae mwy na 300 o swyddi hefyd yn mynd yn y canolfannau oedd gan y cwmni mewn siopau mawr fel Debenhams.