Peter Moore
Mae un o’r tri llofrudd a enillodd apêl ddiweddar yn erbyn yr egwyddor o gael dedfryd o garchar am oes gyfan, wedi dechrau ar apêl arall yn erbyn ei ddedfryd ei hun.
Y llofrudd o ogledd Cymru, Peter Moore, oedd un o’r tri ond does dim gwybodaeth eto ei fod yntau’n mynd i apelio’n unigol.
Roedd Llys Iawnderau Dynol Ewrop wedi penderfynu ei bod yn “annynol ac israddol” i wneud i garcharorion wynebu marwolaeth dan glo.
Arthur Hutchinson, 73 oed, yw’r carcharor sy’n apelio – roedd wedi cael dedfryd oes gyfan am lofruddio cwpwl cyfoethog ar noson priodas eu merch yn 1983 ac am lofruddio un o’u meibion a threisio un o’r gwesteion.
Yn ôl papur y Daily Telegraph, fe allai’r achos gael ei glywed gan y Llys Iawnderau o fewn y misoedd nesa’.
Y Llywodraeth yn erbyn
Ond mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder yn Llywodraeth Prydain yn parhau’n gadarn yn erbyn penderfyniad y Llys.
“Fe ddylai ein barnwyr gael dweud wrth y rhai sy’n gyfrifol am y troseddau gwaetha’ posib na fyddan nhw fyth yn cael eu rhyddhau,” meddai Chris Grayling.
“Mae clywed bod hyn yn torri iawnderau dynol yn wirion.”
Cefndir Peter Moore
Peter Moore yw’r perchennog sinemâu o ogledd Cymru a gafodd garchar am oes gyfan am lofruddio pedwar dyn ar draws y Gogledd yn 1995.
Ei lysenw oedd ‘y dyn mewn du’ oherwydd y dillad yr oedd yn eu gwisgo wrth ladd.