Brechiad MMR (llun o wefan y Gwasanaeth Iechyd)
Mae cwmni meddygol sy’n cynnal clinig yn Abertawe wedi gorfod newid gwefan oedd yn gwneud honiadau “anghyfrifol” ynglŷn ag imiwneiddio plant rhag y frech goch.

Fe ddywedodd yr Awdurdod Safonau Hysbysebu bod rhaid i’r Children’s Immunisation Centre gael gwared ar honiadau oedd yn awgrymu bod cysylltiad rhwng brechiadau MMR sengl ac awtistiaeth.

Roedd chwech o gwynion wedi dod yn erbyn y wefan yn ystod yr epidemig o gannoedd o achosion o’r frech yn ardal Abertawe.

Roedd dwy o’r cwynion yn dweud y gallai’r honiadau ar y wefan arwain at “ofid a phryder” i bobol yn ystod y salwch ac roedd yr wybodaeth yn cynnwys dau gyfeiriad at yr achosion yng Nghymru.

Penderfyniad yr Awdurdod

Fe benderfynodd yr Awdurdod y byddai’n gyfrifol i annog rhieni i ddefnyddio brechiad swyddogol y llywodraeth yn ystod  achosion o’r fath.

Roedd y cwmni hefyd yn torri’r rheolau, medden nhw, trwy hysbysebu moddion a oedd ar gael trwy bresgripsiwn yn unig.

Dyma ddyfyniadau o’r dyfarniad: “Fe wnaethon ni gydnabod ei bod yn gyfrifol i ddefnyddwyr gael cyngor i gymryd brechiadau y mae’r llywodraeth yn eu hargymell, yn arbennig yn ystod achosion o salwch.”

“Oherwydd bod cyd-destun cyffredinol y wefan yn canolbwyntio ar eu honiad bod brechiad MMR sengl yn gysylltiedig ag awtistiaeth, roedden ni’n ystyried y gallai’r iaith achosi ofn a gofid heb reswm cyfiawn ac fe ddaethon ni i’r casgliad fod y wefan yn anghyfrifol.”

Ateb y cwmni

Roedd y cwmni wedi honni nad oedd y wefan yn hysbyseb a’u bod yn gallu profi eu honiadau am ddiogelwch eu brechiadau unigol eu hunain.

Mae gan y cwmni chwech canolfan yn Lloegr ond mae’r wefan hefyd yn dweud eu bod yn cynnal clinig yn Abertawe.