Theresa May
Roedd yr Ysgrifennydd Cartref yn gwybod ymlaen llaw fod heddlu am arestio partner i newyddiadurwr ym maes awyr Heathrow.

Fe ddatgelodd Theresa May fod Heddlu Llundain wedi cysylltu â hi cy natal David Miranda pan oedd yn mynd trwy’r maes awyr ar daith o Berlin i Brasil.

Mae helynt wedi codi ar ôl iddo gael ei holi am naw awr – a hynny, mae’n ymddangos, oherwydd ei fod yn bartner i Glenn Greenwald, y newyddiadurwr a ddatgelodd wybodaeth gyfrinachol o’r Unol Daleithiau ym mhapur y Guardian.

Roedd honno wedi dod gan Ed Snowden, y dyn sydd wedi cael lloches yn Rwsia ar ôl gollwng dogfennau swyddogol sy’n dangos bod llywodraethau fel rhai’r Unol Daleithiau a gwledydd Prydain yn cadw llygad ar negeseuon preifat pobol tros y rhyngrwyd.

Yn ôl Theresa May, doedd ganddi hi ddim hawl i ymyrryd ym mhenderfyniad yr heddlu ond mae’r cwestiynau gwleidyddol yn parhau ar ôl iddi ddod yn amlwg fod llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi cael gwybod ymlaen llawn hefyd.

Cefnogi’r heddlu

Er hynny, roedd yr Ysgrifennydd Cartref yn cyfiawnhau gweithredoedd yr heddlu.

“Os oes yna gred fod gan rywun wybodaeth wedi ei dwyn a fod honno’n sensitif iawn ac yn gallu bod o  help i derfysgwyr, a allai arwain at golli bywyd, yna mae’n iawn fod yr heddlu’n gweithredu ac mae’r gyfraith yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny.”