Fe ddatgelodd Cyngor Dinas Abertawe fod mam wedi cael dedfryd o garchar wedi’i ohirio am fod ei phlentyn yn chwarae triwant.

Dyma’r trydydd tro iddi gael ei ffeinidio’n euog o fethu â sicrhau bod ei phlentyn yn mynd i’r ysgol ac fe gafodd ddedfryd o chwech mis wedi’i ohirio am flwyddyn.

“Cam olaf” oedd mynd â rhieni i lys, meddai llefarydd ar ran gwasanaeth lles adran addysg y Cyngor ac roedden nhw’n dweud eu bod wedi ceisio gweithio gyda’r fam tros gyfnod o bum mlynedd.

Ond rhybudd oedd gan y cynghorydd sy’n gyfrifol am ddysgu a sgiliau ar gabinet y cyngor – yn ôl Will Evans, sicrhau fod plant yn myhnd i’r ysgol oedd un o brif gyfrifoldebau rhieni.

Does dim modd enwi’r fam, rhag datgelu pwy yw’r plentyn.