Mae Heddlu Gwent yn cynnal ymchwiliad llofruddiaeth ar ôl marwolaeth babi chwech wythnos oed yn Ffos y Gerddinen ger Caerffili.
Fe ddatgelodd yr heddlu eu bod wedi cael eu galw i’r cyfeiriad yn y pentre’ – Nelson yn Saesneg – ddydd Gwener ar ôl adroddiad fod plentyn bach wedi peidio ag anadlu.
Mae dyn 32 oed o’r pentre’, Michael Pearce, wedi ymddangos o flaen ynadon ar gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol.
Ond, ers i’r babi farw yn gynharach heddiw, mae’r heddlu’n dweud ei fod yn cael ei holi ar amheuaeth o lofruddio.
Roedd Michael Pearce wedi ymddangos o flaen ynadon Caerffili ddoe ac wedi ei gadw yn y ddalfa.