Hosni Mubarak, pan oedd mewn grym
Fe allai’r helyntion yn yr Aifft waethygu ymhellach gydag awgrym y bydd y cyn Arlywydd Hosni Mubarak yn gorfod cael ei ryddhau o’r carchar.
Yn ôl swyddogion llys, fe allai hynny ddigwydd yr wythnos yma ynghanol protestiadau ffyrnig gan brotestwyr y dyn a ddaeth yn ei le, Mohamed Morsi.
Mae barnwyr eisoes wedi dweud y dylai’r cyn Arlywydd Mubarak gael ei ryddhau ewn achos llygredd ac, er ei fod yn aros am ail achos o ladd protestwyr, does dim haw lei gadw yn y ddalfa am fwy na dwy flynedd.
Yn y cyfamser, mae 25 o heddlu’r Aifft wedi cael eu lladd gan ymgyrchwyr Moslemaidd yn ardal Sinai – mae’n ymddangos bod hynny’n gosb am ran yr heddlu’n chwalu gwersylloedd cefnogwyr Morsi gan ladd cannoedd ohonyn nhw.