Protestwyr ym Mro Morgannwg (llun llyfrgell)
Mae protestiadau uniongyrchol wedi dechrau mewn sawl rhan o Loegr yn erbyn y bwriad i chwilio am nwy ffracio – sydd hefyd yn effeithio ar Gymru.
Wrth i un criw o wrthdystwyr gynnal gwersyll protest yn ne-ddwyrain Lloegr, mae rhai eraill wedi gweithredu yn erbyn safle yn y Midlands a rhai wedi ceisio cau swyddfeydd cwmni sy’n cynrychioli cwmnïau yn y maes.
- Yn ôl y mudiad No Dash fod Gas, roedd chwech o brotestwyr wedi defnyddio siwpyrgliw i lynu eu hunain wrth ddrws ffrynt cwmni Bell Pottinger yng nghanol Llundain.
- Roedd hefyd yn dweud bod 20 o brotestwyr wedi cau safle Cuadrilla yn Lichfield.
- Mae gwersyll chwech diwrnod yn cael ei gynnal yn Balcombe, Gorllewin Sussex, lle mae Cuadrilla wedi dechrau chwilio am y tanwydd dadleuol.
Mae’r brotest yn erbyn Bell Pottinger yn canolbwyntio ar recordiad o un o’u swyddogion sydd, meddai’r protestwyr, yn dangos eu bod yn gwybod na fyddai ffracio’n gwneud fawr ddim i ostwng biliau tanwydd.
Pryder
Mae pobol leol mewn ardaloedd fel Bro Morgannwg yn poeni y byddai chwilio neu gloddio am y nwy yn arwain at lygredd a pheryg posib o ddaeargrynfeydd.
Mae’r broses yn cynnwys pwmpio dŵr a chemegau i’r ddaear i chwalu creigiau a rhyddhau’r nwy.