Mohamed Morsi - Y cyn Arlywydd
Mae’r ymdrechion i gael cytundeb rhwng y ddwy ochr yng ngwrthdaro’r Aifft wedi methu.

Fe ddaeth y cyhoeddiad heddiw ar ôl tua 10 diwrnod o drafodaethau rhwng y llywodraeth dros dro a’r cyn lywodraethwyr, y Frawdoliaeth Foslemaidd.

Roedd nifer o gynrychiolwyr o wledydd eraill hefyd wedi bod yn cymryd rhan yn yr ymdrech i ddod â’r ddwy ochr at ei gilydd ar ôl i’r Arlywydd Morsi gael ei ddiorseddu gan y fyddin fwy na deufis yn ôl.

Wrth gyhoeddi’r methiant, fe ddywedodd arlywydd dros dro’r Aifft, Adly Mansour, fod y cyfnod o drafod diplomyddol ar ben a’i fod yn  beio’r Frawdoliaeth am hynny.

Yn ôl un o ohebyddion gwasanaeth newyddion Al Jazeera yn yr ardal, mae hynny’n codi ofnau y gallai’r fyddin weithredu yn erbyn protestwyr y Frawdoliaeth.

Fe allai hynny arwain at wrthdaro gwaedlyd, meddai.