Keir Starmer sy'n cynnal yr ymchwiliad
Mae’r bargyfreithiwr a ddywedodd fod merch 13 oed mewn achos rhyw yn “rheibus” wedi cael ei wahardd rhag cynnal achosion o’r fath, am y tro o leia’.
Fe gyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron na fyddan nhw’n cyflogi Robert Colover eto, nes bod arolwg o’r achos wedi dod i ben.
Mae hwnnw’n cael ei gynnal gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Keir Starmer, ond mae’r Gwasanaeth Erlyn wedi dweud eisoes fod y bargyfreithiwr wedi torri eu polisïau nhw.
Fe gafodd pedoffilydd gerdded o’r llys gyda dedfryd o garchar gohiriedig ar ôl yr achos – roedd wedi pleidio’n euog i ddau gyhuddiad o wneud lluniau pornograffig eithafol o blant ac un o weithredu rhywiol gyda’r ferch.
Roedd 15,000 o bobol wedi arwyddo deiseb yn gofyn i’r Cyfarwyddwr Erlyniadau ymyrryd.
Mae Robert Colover wedi bod yn ynad cyflog.