Mae nifer y di-waith ar draws gwledydd yr Undeb Ewropeaidd wedi gostwng 24,000 i 19.27 miliwn, gan arwain at obeithion  fod y dirwasgiad ar fin dod i ben.

Dyma’r gostyngiad cyntaf yn y ffigyrau diweithdra ers Ebrill 2011 ac mae rhai arbenigwyr yn credu y bydd ffigyrau mis nesaf yn dangos bod twf wedi bod yn economi Ewrop – mae llwyddiant economi’r Almaen yn rhannol gyfrifol am hynny.

Mae economi Ewrop wedi bod yn cywasgu ers chwarter olaf 2011 wrth i nifer o wledydd ddilyn polisïau llym i ddelio â’r dirwasgiad. Ond yn ôl y ffigyrau diweddaraf, nid yw allbwn rhai o’r gwledydd sydd wedi dioddef waethaf yn sgil y dirwasgiad, yn cywasgu cymaint ag yr oedan nhw.

Mae ffigyrau diweddaraf gan swyddfa ystadegau Eurostat yn dangos fod diweithdra yn Sbaen wedi gostwng  6 miliwn i 5.96 miliwn gyda’r nifer sy’n ddi-waith yn y wlad yn 26.3%. Ond yn ôl Eurostat, mae’r genhedlaeth iau wedi dioddef oherwydd y dirwasgiad gyda chynnydd o 1.13 miliwn yn nifer y rhai o dan 25 oed sy’n ddi-waith.

Mae rhai arbenigwyr yn credu fod posibilrwydd y bydd economi Gwlad Groeg yn dechrau tyfu eto ar ôl dioddef yn enbyd yn dilyn y dirwasgiad.