Doreen Lawrence
Mae disgwyl i Doreen Lawrence dderbyn sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi fel arglwyddes o’r Blaid Lafur wrth i restr o dderbynwyr gael ei chyhoeddi ddydd Iau.

Mae Doreen Lawrence wedi arwain ymgyrch hir er mwyn darganfod pwy oedd yn gyfrifol am lofruddio ei mab, Stephen Lawrence, mewn ymosodiad hiliol yn 1993 pan oedd yn 18 oed.

Mae’n ymddangos fod enwebiad Doreen Lawrence wedi ei gytuno gan arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband AS, ac wedi ei gyflwyno i’r Prif Weinidog ar restr o argymhellion, yn ôl adroddiadau gan bapur newydd The Evening Standard.

Nid yw’r Blaid Lafur wedi cadarnhau hyn eto.

Yn 2011, cafodd Gary Dobson a David Norris eu dedfrydu i garchar am oes am eu rhan yn llofruddiaeth Stephen Lawrence ar stryd yn Eltham, Llundain fis Ebrill, 1993.