Yr Uchel Lys yn Llundain
Mae cyn gyd-drysorydd y Blaid Geidwadol, Peter Cruddas wedi ennill iawndal o £180,000 mewn achos enllib yn erbyn papur newydd y Sunday Times oedd wedi honni ei fod wedi codi ffi o £250,000 i sicrhau mynediad i David Cameron.
Roedd Peter Cruddas, 59 oed, wedi dwyn achos yn erbyn Times Newspapers Ltd a dau newyddiadurwr y papur newydd, yn dilyn tair erthygl a ymddangosodd yn y papur fis Mawrth 2012.
Roedd Peter Cruddas wedi cwyno fod y Sunday Times yn awgrymu ei fod yn gallu sicrhau mynediad at y Prif Weinidog David Cameron, a dylanwadu ar bolisïau’r Llywodraeth, am ffi ariannol.
Roedd y Sunday Times, sy’n gorfod talu £500,000 o gostau cyfreithiol erbyn canol mis Awst, wedi pledio cyfiawnhad i’r hyn a ddigwyddodd.
Mae Peter Cruddas wedi croesawu’r dyfarniad gan ddweud bod “cwmwl du” wedi bod dros ei fywyd ers i’r “celwyddau” gael eu cyhoeddi yn y Sunday Times 16 mis yn ôl.