Penrhyn Gŵyr
Mae prosiect arloesol i ddiogelu tirlun arbennig Penrhyn Gŵyr wedi derbyn grant o £1.3 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Bwriad prosiect ‘Achub Penrhyn Gŵyr’ yw gwarchod treftadaeth ddiwydiannol yr ardal a diogelu hanes naturiol yr arfordir, trwy gryfhau cloddiau arfordirol ac annog pori ar y tir.

Penrhyn Gŵyr oedd y safle cyntaf ym Mhrydain i’w ddynodi fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac ymysg safleoedd mwyaf adnabyddus yr ardal mae traeth Rhosili, Porth Eynon a nifer o gaerau o’r Oes Efydd.

Dywedodd Manon Williams o Gronfa Treftadaeth y Loteri, “Mae sicrhau bod ein treftadaeth naturiol, cyfoethog wedi eu gwarchod yr un mor bwysig i ni ag ydi gwarchod ein treftadaeth adeiledig. Fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig cyntaf y DU ac fel atyniad twristaidd ei hunain, mae’n eithriadol o bwysig bod tirwedd Penrhyn Gŵyr wedi ei ddiogelu.”

Bydd y prosiect, sy’n debygol o redeg am bedair blynedd, yn annog grwpiau lleol, ysgolion a phrifysgolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau i hybu dealltwriaeth am dreftadaeth Penrhyn Gŵyr a’r tirlun lleol.

Mae’r grant wedi ei rhoi i Gyngor Abertawe a’i bartneriaid, sy’n cynnwys Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg.

Mae ardal Penrhyn Gŵyr yn cynnwys rhai o draethau mwyaf poblogaidd Prydain, fel traeth Llangenydd a thraeth Bae Oxwich.