Tony Nicklinson
Mae teulu Tony Nicklinson, a Paul Lamb, a gafodd ei barlysu mewn damwain ffordd, wedi colli eu her gyfreithiol am yr hawl i farw yn y Llys Apêl.
Roedd tri barnwr wedi gwrthod achosion Paul Lamb a Tony Nicklinson, 58, a fu farw yn ei gartref yn Melksham yn Wiltshire ym mis Awst y llynedd – wythnos ar ôl iddo golli ymgais yn yr Uchel Lys i gael meddyg i’w helpu i ddod a’i fywyd i ben.
Ond mae’r llys wedi caniatáu apêl gan ddyn sy’n cael ei adnabod fel “Martin”, sydd am gael eglurhad am gyngor y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus ynglŷn â safiad gweithwyr iechyd sy’n helpu mewn achosion o hunanladdiad.
Cafodd y dyfarniad ei gyhoeddi heddiw gan yr Arglwydd Brif Ustus yr Arglwydd Judge, Meistr y Rholiau, yr Arglwydd Dyson a’r Arglwydd Ustus Elias.
Roedd gwraig Tony Nicklinson, a gafodd ei barlysu gan strôc yn 2005, wedi parhau i frwydro yn y llysoedd yn dilyn ei farwolaeth.
Roedd y cyn adeiladwr a thad i ddau Paul Lamb, 57, o Leeds eisiau doctor i’w helpu i farw.
Nid oedd yn y llys i glywed y dyfarniad.
Mae teulu Tony Nicklinson wedi dweud ar Twitter y byddan nhw’n parhau gyda’u hymgyrch.