Ann Clwyd
Mae’r Aelod Seneddol Ann Clwyd wedi galw am godi cwestiynau pellach ynglŷn ag achos Bradley Manning.
Mae’n dweud fod angen holi pam fod y milwr wedi ei anfon i ymladd yn Irac ac yntau mewn cyflwr bregus.
Ac mae’n gofyn pam nad yw peilotiaid a saethodd at bobol gyffredin ddi-arf wedi cael eu herlyn hefyd – dyna un o’r pethau a ddatgelodd y milwr o dras Gymreig wrth ollwng gwybodaeth gyfrinachol i’r wefan Wikileaks.
Codi cwestiynau
Mewn cyfweliadau papur newydd a radio, mae AS Cwm Cynon wedi croesawu’r ffaith fod Bradley Manning wedi ei gael yn ddieuog o’r prif gyhuddiad yn ei erbyn – helpu’r gelyn.
Ond mae’n dweud fod angen codi rhagor o gwestiynau am gefndir yr achos, wrth i’r milwr, a gafodd ei fagu am gyfnod yn Sir Benfro, wynebu dedfryd o hyd at 136 blynedd o garchar am fwy nag 20 o gyhuddiadau eraill.
Fe ddywedodd wrth bapur newydd y Guardian y byddai’n aros am y ddedfryd cyn ystyried a fydd yn galw ar Lywodraeth Prydai i ymyrryd.
Yn y gorffennol, roedd Ann Clwyd, a fu’n gennad arbennig i Lywodraeth Tony Blair yn Irac, wedi codi achos Bradley Manning yn Nhŷ’r Cyffredin.
Croesawu cyfle i drafod rhesymau
Mae ymgyrch i gefnogi Bradley Manning yng ngwledydd Prydain wedi croesawu’r ffaith y bydd ganddo hawl i gyflwyno rhesymau tros ei ymddygiad yn ystod y gwrandawiad dedfrydu.
Fe allai hynny barhau am rai wythnosau, wrth i fwy na 40 o dystion gael eu galw gan y ddwy ochr.