Mae disgwyl i ddyn ymddangos mewn llys yn Cleveland, Ohio ar gyhuddiad o ladd tair dynes ar ôl i’w cyrff gael eu darganfod mewn bagiau bin.
Mae Michael Madison, 35, wedi ei gyhuddo o chwe chyhuddiad o lofruddiaeth, dau gyhuddiad yr un am bob un o’r tair dynes, yn seiliedig ar ddamcaniaethau ynglŷn â sut y cafodd y tair eu lladd.
Mae Madison hefyd wedi ei gyhuddo o dri achos o gipio, tri achos o gam-drin corff, un achos o dreisio ac un achos o fod ag arf yn ei feddiant.
Roedd heddlu Cleveland wedi dod o hyd i gorff un o’r merched ar 19 Gorffennaf ar ôl i rywun eu ffonio i ddweud bod arogl drewllyd yn dod o garej. Cafodd dau gorff arall eu darganfod y diwrnod canlynol.