Fe fydd arweinwyr undeb y gweithwyr post yn ystyried galw am streic ar draws gwledydd Prydain.
Mae 500 o gynrychiolwyr Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (y CWU) yn cyfarfod yn Llundain heddiw i drafod eu hymateb i gynlluniau’r Llywodraeth i breifateiddio’r Post Brenhinol.
Fe fydd hynny’n cynnwys ystyried cynnal pleidlais i alw streic o’r 115,000 o weithwyr post trwy wledydd Prydain.
Mae’r undeb yn anhapus gyda’r sicrwydd sydd wedi ei roi i’w aelodau o ran swyddi, amodau gwaith a chyflog os bydd preifateiddio’n digwydd.
Yn ystod eu cynhadledd ddeuddydd, fe fyddan nhw hefyd yn ystyried dewisiadau eraill yn hytrach na phreifateiddio.
‘Amynedd yn prinhau’
“R’yn ni eisiau sicrhau’r amddiffyniad gorau posib ar gyfer swyddi ein haelodau ac fe fyddwn ni’n gwneud popeth sydd ei angen i sicrhau fod eu dyfodol a dyfodol gwasanaethau post yn y Deyrnas Unedig yn cael eu gwarchod,” meddai Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Dave Ward.
“Doedd y cynnig gwarchod swyddi a wnaed gan y Post Brenhinol ynghynt y mis yma ddim gwerth y papur yr oedd arno.
“Mae amynedd yn prinhau ac os na allwn ni sicrhau amddiffyniad cadarn ar gyfer swyddi, cyflogau ac amodau gwaith yn fuan, r’yn ni’n gofyn i’n cynrychiolwyr gefnogi polisi o gynnal pleidlais am streic genedlaethol.”