Mae siarad o amgylch y bwrdd bwyd gartre’n helpu plant i fod yn hyderus yn yr ysgol, yn ôl adroddiad newydd.
Roedd plant a phobol ifanc o Gymru ymhlith bron 35,000 a gafodd eu holi yn arolwg yr Ymddiriedolaeth Lythrennedd Genedlaethol.
Roedd honno’n awgrymu bod plant sy’n siarad yn gyson gyda’u teuluoedd yn fwy parod i godi llaw i roi barn yn yr ystafell ddosbarth.
Rhai o’r manylion
Roedd yr arolwg yn dangos bod:
- Tri o bob deg plentyn rhwng 8 ac 16 oed yn treulio mwy o amser ar-lein neu o flaen set deledu nag yn siarad gyda’u teuluoedd.
- Doedd chwarter y plant a’r bobol ifanc ddim yn siarad gyda’u teuluoedd o amgylch y bwrdd bwyd bob dydd.
- Dim ond 2.9% oedd fyth yn siarad gyda’u teuluoedd o amgylch y bwrdd bwyd.
‘Allweddol’
“Mae ein hymchwil yn dangos pa mor allweddol yw sgwrsio gartref o ran llwyddiant plant a phobol ifanc yn y dyfodol,” meddai cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth, Jonathan Douglas.
“R’yn ni wrth ein bodd fod sgiliau siarad a gwrando wedi eu hadfer i’r cwricwlwm cynradd (yn Lloegr) ac yn gobeithio y bydd rhieni’n ychwanegu at hynny yn y cartref.
“Bydd siarad a chyfathrebu gartref, adeg prydau bwyd er enghraifft, yn helpu plant i gael y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer bywyd llwyddiannus a hapus.”