Bradley Manning
Fe fydd y milwr Bradley Manning yn cael ei ddedfrydu heddiw wedi iddo ei gael yn euog o ysbio, dwyn a thwyll cyfrifiadurol ddoe ar ôl datgelu cannoedd o ddogfennau mwyaf cyfrinachol yr Unol Daleithiau i wefan Wikileaks.
Ond cafwyd Manning, 25, a gafodd ei fagu am gyfnod yn Sir Benfro, yn ddieuog o’r cyhuddiad mwyaf difrifol yn ei erbyn, sef rhoi cymorth i’r gelyn.
Mae’n wynebu hyd at 136 o flynyddoedd yn y carchar.
Cafodd Bradley Manning, dadansoddwr cudd wybodaeth, ei arestio yn Irac ym mis Mai 2010. Fe dreuliodd rai wythnosau mewn cell yn Kuwait cyn cael ei symud i’r Unol Daleithiau. Fe ddechreuodd yr achos yn y llys milwrol ym mis Mehefin.
‘Cynsail peryglus’
Mae sylfaenydd Wikileaks, Julian Assange, wedi beirniadu’r dyfarniad gan ddisgrifo Bradley Manning fel “arwr”.
Wrth ymateb i’r dyfarniad yn llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain, dywedodd bod y dyfarniad yn gosod “cynsail peryglus” a’i fod yn disgwyl i Manning apelio.