Mae Centrica, perchennog Nwy Prydain, wedi cyhoeddi cynnydd o 3.2% yn ei elw am chwe mis cynta’r flwyddyn i £356 miliwn.
Y tywydd oer fu’n gyfrifol am yr hwb i’w elw ar ôl i’r cwmni gyhoeddi cynnydd o 6% ym mhrisiau nwy ym mis Rhagfyr.
Mae’r cyhoeddiad bod Nwy Prydain wedi gweld cynnydd yn ei elw o £345m o’r un cyfnod y llynedd i £356m am hanner cynta’r flwyddyn eleni yn debygol o gythruddo cwsmeriaid.
Mae’r cwmni eisoes wedi rhoi addewid y byddai cynnydd mewn elw yn golygu na fyddai’n codi prisiau ynni ond mae ymgyrchwyr wedi galw ar y cwmni i fynd ymhellach a thorri prisiau nwy.
Dywedodd prif weithredwr Sam Laidlaw: “Gyda’n cwsmeriaid yn defnyddio mwy o nwy i gadw’n gynnes yn ystod y gaeaf anarferol o er, ry’n ni’n gwneud popeth yn ein gallu i’w helpu i gadw costau ynni o dan reolaeth ac i wneud biliau’n symlach ac yn gliriach.”