Mae’r BBC yn dweud eu bod wedi rhoi rhagor o arian i’r asiantaeth hawliau cerddoriaeth Cymraeg, Eos, ar gyfer achos tribiwnlys yn eu herbyn.
Yn ôl adroddiadau ar wasanaethau newyddion y darlledwr, roedd yr asiantaeth eisoes wedi gwario £50,000 ar gostau cyfreithiol ac roedd angen rhagor i baratoi ar gyfer y gwrandawiad ym mis Medi.
Mae’r Gorfforaeth yn dweud eu bod wedi cytuno i gyfrannu rhagor er mwyn gwneud yn siŵr fod y materion yn cael eu trafod yn iawn a’u datrys unwaith ac am byth.
Y cefndir
Fe ddaw hyn yn sgil streic y cyfansoddwyr ynghynt eleni pan gollodd Radio Cymru’r hawl i ddarlledu tua 30,000 o ganeuon Cymraeg.
Roedd Eos yn dadlau y dylai taliadau i gyfansoddwyr fod yn llawer uwch na’r hyn y mae’r BBC yn ei gynnig am ganeuon Cymraeg.
Fe ddaeth y ddwy ochr i gytundeb i fynd â’r achos gerbron tribiwnlys hawlfraint, gyda’r BBC yn addo cyfrannu at gostau’r asiantaeth.
Llythyr at y Bîb
Yr wythnos ddiwetha’, fe anfonodd Eos lythyr at y BBC yn egluro eu bod wedi gwario’r £50,000 ar achos tros dro cynharach.
Fe ddywedodd Dafydd Roberts, un o benaethiaid Eos, eu bod hefyd yn gobeithio trefnu digwyddiadau codi arian er mwyn cyflogi cyfreithwyr a bargyfreithiwr a chomisiynu adroddiad arbenigol ar werth ariannol y caneuon.
Datganiad BBC Cymru Wales
Mewn datganaid dywedodd BBC Cymru: “Mae’r BBC wastad wedi ymrwymo i ddod o hyd i gytundeb parhaol i’r anghydfod drwy’r broses Tribiwnlys Hawlfraint.
“Yn ystod y diwrnodau diwethaf rydym wedi cynnig cefnogaeth ariannol ychwanegol i Eos er mwyn sicrhau bod ganddynt gynrychiolaeth gyfreithiol addas fel bod dadleuon eu haelodau ynglŷn â gwerth masnachol eu hawliau darlledu yn cael gwrandawiad teg.”