Mae o leiaf 36 o bobl wedi cael eu lladd wrth i nifer o fomiau ceir ffrwydro o amgylch prifddinas Irac, Baghdad, heddiw.
Cafodd oddeutu 200 eu hanafu mewn 12 ffrwydrad o amgylch y brifddinas wrth i bobl fynd i’w gwaith.
Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau hyd yn hyn ond credir mai adain Irac o al-Qaida sy’n gyfrifol. Mae’r grŵp, sy’n cael ei adnabod fel Gwladwriaeth Islamaidd Irac, yn defnyddio bomiau ceir ac ymosodiadau cyfamserol er mwyn tanseilio hyder pobl Irac yn y llywodraeth.
Dywedodd swyddogion yr heddlu fod 12 o fomiau ceir wedi ffrwydro ym marchnadoedd a meysydd parcio mewn ardaloedd Shiaidd ym Maghdad o fewn awr i’w gilydd, gyda’r ffrwydrad mwyaf dinistriol yn ardal dinas Sadr lle lladdwyd naw o bobl.
Mae’r cynnydd yn yr ymosodiadau yn dilyn ymosodiad gan swyddogion diogelwch ar wersyll Swnni yn nhref ogleddol Hawija, a laddodd 44 o bobl.
Ers mis Ebrill eleni mae oddeutu 3,000 o bobl wedi eu lladd o ganlyniad i ymosodiadau gan gynnwys dros 500 ers dechrau Gorffennaf.