Fe allai merch 13 oed, sy’n ddifrifol wael yn yr ysbyty, fod wedi cael ei hanafu wrth geisio amddiffyn ei thad a gafodd ei drywanu i farwolaeth yn ystod ymosodiad.
Cafodd y ferch, sydd wedi ei henwi’n lleol fel Ayesha Jackson, ei hanafu’n ddifrifol ar ôl i’w thad, Robert Jackson, 41, gael ei drywanu mewn digwyddiad yn ei gartref yn Moston, yng ngogledd Manceinion neithiwr.
Bu farw dyn 34 oed, sy’n cael ei amau o’r ymosodiad, ar ôl iddo yntau gael ei drywanu cyn iddo ddwyn car a’i yrru i mewn i wal tafarn yn oriau man y bore ma yn Harpurhey.
Daeth yr heddlu o hyd i Robert Jackson yn farw yn ei gartref a chafodd ei ferch ei chludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei thrywanu.
Cafodd yr heddlu eu galw tua 1yb ar ôl i ddyn fygwth perchennog car gyda chyllell cyn dwyn ei gerbyd. Yn fuan wedyn, pan geisiodd yr heddlu fynd at y car, fe yrrodd y dyn i mewn i wal tafarn yr Alliance. Cafodd ei gludo i’r ysbyty ond bu farw’n fuan wedyn.
Dywedodd cymdogion Robert Jackson ei fod yn ddyn poblogaidd a thawel oedd wedi byw ar yr ystâd ers 20 mlynedd.
Ayesha Jackson yw ei unig blentyn ac roedd yn ymweld â’i thad adeg yr ymosodiad. Mae hi fel arfer yn byw gyda’i mam.
Deellir nad yw Heddlu Manceinion yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r ymosodiad.