Roedd cost angladd y Farwnes Thatcher yn £1.2 miliwn, fe gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r ffigwr yn llai na’r amcangyfrif o £1.6 miliwn.

Ond, os yw oriau ychwanegol staff yn cael ei gynnwys, mae’r bil yn cynyddu i fwy na £3 miliwn.

Dywedodd gweinidog Swyddfa’r Cabinet Francis Maude bod yr angladd seremonïol ym mis Ebrill yn “deyrnged addas” i’r cyn-brif weinidog.

Mae ffigurau terfynol a gyhoeddwyd gan  Lywodraeth Prydain yn dangos bod gwahanol adrannau wedi gwario £261,976 ar y digwyddiad. Roedd gwleidyddion o bob cwr o’r byd wedi mynychu angladd Margaret Thatcher.

Roedd costau polisi a diogelwch yn £943,833.

Ond amcangyfrifir bod y gost i’r heddlu yn £2 miliwn ychwanegol.