Llys Ynadon Prestatyn
Mae dyn a dynes wedi cael eu cadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o ddynladdiad ar ôl i ddyn farw yn dilyn digwyddiad tu allan i dafarn yn Abergele.

Bu farw Paul Blackledge, 54, yn yr ysbyty nos Sadwrn yn dilyn ymosodiad honedig tu allan i dafarn Pen-y-Bont yn y dref nos Iau.

Roedd Tracey Jones, 47, ac Anthony Graham Smith, 39, wedi ymddangos gerbron ynadon Prestatyn bore ma.