Mae disgwyl i ddyn ymddangos gerbron llys ynadon Caerffili heddiw ar gyhuddiad o gynnau tân yn fwriadol yn siop Poundestretcher yn y Coed Duon ym mis Mai.

Cafodd Stephen John Powell, 27, ei arestio gan Heddlu Gwent oedd yn awyddus i’w holi ynglŷn â’r digwyddiad.

Roedd y siop ar y Stryd Fawr yn y dref wedi ei ddifrodi’n llwyr yn y tan a chafodd yr adeilad ei ddymchwel.