Mae tensiwn yn Yr Aifft wedi cynyddu wrth i’r llywodraeth dros dro geisio dymchwel dau wersyll ymgyrchu sy’n cael eu defnyddio gan gefnogwyr y cyn-arlywydd, Mohammed Morsi.
Daw hyn wedi i 83 o gefnogwyr y cyn-arlywydd gael eu lladd mewn gwrthdaro â’r fyddin dros y penwythnos gyda phlaid y cyn-arlywydd, y Frawdoliaeth Foslemaidd, yn honni bod y marwolaethau’n dangos creulondeb y gyfundrefn newydd.
Ond mae llawer yn credu fod y Frawdoliaeth Foslemaidd yn ceisio manteisio ar y gwrthdaro er mwyn ennyn cefnogaeth tra bod miloedd wedi mynd ar y strydoedd i gefnogi’r fyddin a fu’n gyfrifol am ddisodli Mohammed Morsi ar Orffennaf 3 eleni.
Protestiadau’n ‘anogaeth’
Dywedodd un o arweinwyr y fyddin, Cadfridog Abdel-Fattah el-Sissi, ei fod yn cymryd y gefnogaeth ar y strydoedd yn anogaeth i ddelio â’r trais a’r terfysgaeth.
Fe rybuddiodd llefarydd arall y dylai’r protestwyr osgoi adeiladau’r fyddin, yn enwedig adeilad gwybodaeth gudd y fyddin.
Meddai: “Mae unigolion sy’n ceisio aflonyddu ar y bobol sy’n gwarchod adeiladau’r fyddin yn peryglu eu bywydau eu hunain.”
‘Cyfundrefn waedlyd’
Ond mae’r Frawdoliaeth Foslemaidd yn honni bod y fyddin yn ran o ‘gyfundrefn waedlyd’.
Dywedodd un o arweinwyr y Frawdoliaeth Foslemaidd, Mohammed el-Beltagi, “Rydym angen ymyrraeth gan sefydliadau rhyngwladol. Mae’r bobol yn cael eu lladd fel defaid … rydym yn erfyn ar y Cenhedloedd Unedig i achub cannoedd o filoedd o bobol rhag y terfysg yma.”