Mahmoud Abbas
Fe fydd trafodaethau heddwch y Dwyrain Canol yn ailddechrau ar ôl bwlch o bum mlynedd, wrth i gynrychiolwyr y ddwy ochr deithio i Washington.

Ond does dim disgwyl cynnydd mawr yn y berthynas rhwng y Palestiniaid ac Israel er gwaetha’ llwyddiant Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, John Kerry, i’w cael at y bwrdd.

Y prif nod fydd gosod y seiliau ar gyfer trafodaethau llawnach.

‘Dim treflannau’ meddai Abbas

Mae Arlywydd Palesteiniaid Gaza, Mahomoud Abbas, yn mynnu bod rhaid i Israel naill ai roi’r gorau i godi treflannau ar eu tir nhw neu gydnabod mai ffiniau 1967 yw’r man cychwyn ar gyfer gwladwriaeth Balesteinaidd.

Ond mae Israel eisoes wedi dweud y bydd y broses o godi’r treflannau yn parhau a dydyn nhw ddim wedi derbyn y ddadl am y ffiniau chwaith.

Un elfen allweddol wrth ail-ddechrau trafod oedd cytundeb Israel i ryddhau 104 o garcharorion Palesteinaidd.