Llun ymgyrchu o wefan Unite
Mae undebau llafur yn protestio wrth i’r Llywodraeth godi arian ar weithwyr am ddod ag achos mewn tribiwnlys diwydiannol.
O hyn ymlaen, fe fydd rhaid talu hyd at £1,200 am ddwyn achos o’r fath – er y bydd y gost yn llawer llai na hynny yn y rhan fwya’ o achosion.
Ond mae’r undebau mawr yn gwrthwynebu’n ffyrnig, gydag Unite yn dweud y byddan nhw’n talu’r pris ar ran eu haelodau ac undeb y GMB yn cynnal protest yn Llundain.
Mae’r undebau’n amcangyfri’ y bydd y tâl yn effeithio ar gymaint â 150,000 o weithwyr trwy wledydd Prydain bob blwyddyn.
‘Yn ôl i oes Victoria’
“Heddiw rydyn ni’n gweld anghyfiawnder ar raddfa fawr wrth i’r Llywodraeth gwrth-weithwyr yma ddefnyddio gordd i chwalu hawliau gweithwyr – mae hyn yn gam yn ôl i oes Victoria,” meddai Len McCluskey, Ysgrifennydd Cyffredinol Unite.
“Mae ceisio am iawn am ddiswyddo annheg neu wahaniaethu annheg ac anghyfiawnderau eraill yn y gwaith yn hawl dynol sylfaenol – ond nawr mae gweinidogion yn rhoi rhwystrau ariannol amhosib yn llwybr gweithwyr sydd eisiau cyfiawnder.”
Yn ôl y GMB, mae’r tâl yn rhoi penrhyddid i gyflogwyr barhau i gam-drin gweithwyr ac mae rhai cyfreithwyr yn y maes hefyd yn erbyn.
Wrth ymateb i’r newidiadau, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC, Frances O’Grady: “Mae heddiw yn ddiwrnod da i reolwyr gwaethaf Prydain.
“Wrth godi ffioedd ar unigolion sydd eisiau gwneud ceisiadau o gam-drin ac aflonyddu, mae’r Llywodraeth yn ei gwneud yn haws i gyflogwyr gael ymddwyn yn warthus. Mae’r newidiadau yma yn rhan o ymgyrch ehangach i gael gwared â hawliau gweithwyr yn y gweithle. Yr unig beth fydd hyn yn ei gyflawni bydd prisio bobl fregus allan o gael yr hawl am gyfiawnder.”
Croesawu
Ond mae’r Fforwm Busnes Preifat wedi croesawu’r tâl, gan ddweud bod tribiwnlysoedd yn llafurus iawn ac yn taro busnesau bychain yn galetach na neb.