Mae’r DVLA wedi rhyddhau gwybodaeth sy’n datgelu prif esgusodion gyrwyr dros beidio prynu disg treth.
Ymysg yr esgusodion mwyaf syfrdanol oedd bod un gyrrwr wedi syrthio allan o goeden wrth gasglu ffrwythau a thorri ei ddwy fraich ac felly ddim yn gallu llenwi’r ffurflen archebu disg treth. Roedd gyrrwr arall yn honni ei fod wedi bod allan o’r wlad am rai misoedd a’i fod wedi anghofio lle’r oedd wedi parcio ei gar.
Wrth ymateb i’r wybodaeth, dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Digidol y DVLA, Carolyn Williams,
“Mae’r mwyafrif helaeth o bobl yn trethu eu ceir yn brydlon, ond mae esgusodion a dderbyniwn yn syfrdanol. Mae’n haws nag erioed i bobl drethu eu ceir ac mae’n gwasanaethau digidol wedi eu cynllunio i’w defnyddio ar unrhyw adeg o’r dydd neu nos i gyd fynd a bywydau pobl heddiw – felly does yna wir ddim angen esgusodion dwl.”
Dyma restr o’r deg prif esgus dros beidio prynu disg treth:
- Dywedodd fy nghyfrifydd wrtha i y byddwn yn cael ad-daliad treth, felly mi dybiais nad oedd angen i mi dalu eto eleni.
- Roeddwn i ar y ffordd i’r swyddfa bost i dalu’r dreth car ac fe alwais i mewn i siop fetio – roedd ceffyl yn rhedeg yn Doncaster o’r enw ‘Don’t Do It’ felly mi roddais i fet arno gydag arian y dreth car – fe gollodd.
- Dywedodd fy ffrind wrtha i os oedd cost y dreth yn fwy na gwerth y car nad oes rhaid i chi dalu – tydi fy nghar ddim gwerth hynny, felly wnes i ddim talu.
- Fe syrthiais allan o goeden wrth gasglu eirin a thorri fy nwy fraich.
- Cymrais ormod o Viagra ac nid oeddwn yn medru gadael y tŷ.
- Roeddwn i wedi anghofio fod y beic modur yn fy ngarej – roedd wedi ei guddio tu ôl i’r barbeciw felly nid fi sydd ar fai.
- Roedd gen i ‘ffliw dynion’ felly allwn i ddim mynd i swyddfa’r post.
- Rydw i wedi bod allan o’r wlad ers pedwar mis ac fe anghofiais i ble roeddwn wedi parcio’r car.
- Fe wnaeth fy nghi fwyta’r nodyn atgoffa.
10. Wnaeth fy nodyn atgoffa ddim gweithio ar fy ffôn symudol felly does dim bai arna i.