Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau y bydd gŵyl lenyddol i blant yn rhan o’r brifwyl yn Ninbych.
Maen nhw’n disgrifio’r digwyddiadau fel “gŵyl o fewn gŵyl” er mwyn ennyn diddordeb at lenyddiaeth ymhlith plant a phobol ifanc.
Fe fydd yn cynnwys gweithgareddau’n ymwneud â chymeriadau poblogaidd o fyd diwylliant plant, gan gynnwys stori’r dydd gan griw Cyw o S4C, parti eirth Alun yr Arth a pharti pen-blwydd i’r mochyn Peppa Pinc.
Datblygiad
Yn ôl y trefnwyr, mae’r ŵyl yn ddatblygiad ar weithgareddau lleol sy’n cael eu cynnal yn ardal yr Eisteddfod bob blwyddyn.
Mae’r rheiny’n cynnwys gweithdai llenyddol a’r bwriad eleni yw rhoi’r un cyfle i blant a phobol ifanc o bob rhan o Gymru yn ystod yr wythnos.
Fe fydd stondin arbennig Gŵyl Llên Plant ar y maes.
A chaffi cerddoriaeth …
Datblygiad arall newydd eleni fydd Caffi Maes B – sy’n atgyfodi’r syniad o berfformiadau cerddoriaeth i bobol ifanc ar y maes.