Yr haf hawn bydd nofel newydd Aled Jones Williams, yr awdur a dramodydd di-flewyn-ar-dafod o Gricieth, yn cael ei gyhoeddi.

Mae Aled Jones Williams yn cael ei ystyried ymhlith awduron a dramodwyr gorau Cymru a bydd ei drama ddiweddaraf, Ar Lan y Môr, yn cael ei pherfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych eleni gan Gwmni’r Frân Wen.

Mae’r nofel, ‘Eneidiau’, yn darlunio gwe gymhleth o berthnasau cariadus a theuluol ond bydd un peth am y nofel yn gyfarwydd i’r rhai sydd wedi darllen nofel ddiwethaf yr awdur.

Bydd cymeriad Tom Rhydderch, yr awdur na all ysgrifennu’r un gair mwyach, yn gyfarwydd i’r rhai sydd wedi darllen ‘Yn Hon Bu Afon Unwaith’ gan Aled Jones Williams.

Ond mae Aled, sy’n wreiddiol o Lanwnda ger Caernarfon, yn pwysleisio nad dilyniant yw ei nofel ddiweddaraf: “Am ryw reswm mae cymeriad Tom Rhydderch wedi aros ar flaen fy meddwl. Dwi wastad wedi coelio bod llawer mwy i ddweud am y cymeriad, ac mae wedi bod yn brofiad difyr ei roi o mewn stori cwbl newydd a gwahanol,.”

Yn Eneidiau daw cymeriadau newydd i’r amlwg, pob un ohonyn nhw yn bersonoliaethau gwahanol.

Un o’r cymeriadau newydd fydd Nerys – neu Caroline-Hindley – ffotograffydd ifanc o Lerpwl. Ond mae mwy i Nerys na ffotograffiaeth. Mae hi ar drywydd hanes Alvin Langdon Coburn, y ffotograffydd enwog o ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Dywed Aled: “Mae gen i ddiddordeb mawr mewn ffotograffiaeth a chan bod Alvin Langdon Coburn wedi byw ym Mae Colwyn am flynyddoedd, ro’n i’n meddwl y byddai’n ddiddorol ei gynnwys yn y gyfrol.

“Roedd yr Americanwr Coburn yn ffotograffydd pwysig iawn – y cyntaf i bwysleisio potensial gweledol ffotograffau wedi’u tynnu o fannau uchel ac wedyn bu’n gyfrifol am rai o’r ffotograffau haniaethol cyntaf un.”

Ychwanega Aled: “Hanes nifer o eneidiau gwahanol sydd yma, a dyna dwi’n hoffi am y nofel, y ffaith fy mod yn gallu mynd o dan groen nifer o gymeriadau gwahanol ac yn gallu dilyn datblygiadau perthnasau’r prif gymeriadau. I mi, mae eneidiau’r cymeriadau wastad yn bwysicach na’r stori ei hun.”