John Griffiths
Yr wythnos hon mae Glandŵr Cymru, Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru, wedi lansio rhaglen newydd i artistiaid preswyl mewn partneriaeth a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Roedd camlesi Cymru ym mlaen y gad o ran hanes diwydiannol y byd, gan helpu Cymru i’w safle fel y genedl ddiwydiannol gyntaf yn y byd.

Bydd y preswylfeydd yn adeiladu ar y cynfas naturiol i ysbrydoli pobl eraill i ymuno, er mwyn creu cenhedlaeth newydd o gyfeillion i’r camlesi a chodi ymwybyddiaeth o ddyfrffyrdd Cymru.

Wrth siarad cyn y lawns dydd Llun ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, dywedodd Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, John Griffiths AC:

“Mae yna gysylltiad ers tro byd rhwng y celfyddydau a’r dyfrffyrdd. Mae gan gelf yn ei holl ffurfiau’r gallu i synnu, i godi’r galon, i herio ac i ymchwilio. Bydd hyn yn annog pobl i ymweld â’r dyfrffyrdd a’u cefnogi a gobeithio y bydd y fenter yn rhoi gwên ar wyneb pobl gan beri iddyn nhw gymryd munud i sefyll ac ystyried y camlesi gwych sydd ar garreg y drws.”

Bydd y ddwy breswylfa gyntaf yn dechrau yn 2013 gyda phreswylfa am chwe mis ar Gamlas Mynwy ac Aberhonddu a phreswylfa am flwyddyn ar ddyfrffyrdd y Gororau.

Ar Gamlas Mynwy ac Aberhonddu, bydd yr artist a benodir yn cydweithio â Safle Treftadaeth Byd Blaenafon a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan weithio â’r gymuned leol, badwyr, beicwyr, cerddwyr, pobl sy’n padlo a busnesau i roi hwb i greu bwrlwm o weithgareddau ar Lanfa Goetre.

Yn ystod yr ail breswylfa, am gyfnod o flwyddyn, bydd artist yn ymateb i’r cymysgedd o bensaernïaeth, peirianneg a phobl mewn chwe gwlad, gan gynnwys Cymru a Lloegr, lle mae dyfrffyrdd yn croesi ffiniau cenedlaethol yn Ewrop. Bydd yr artist yn cysylltu â digwyddiadau o bwys yn y celfyddydau ac ar y dyfrffyrdd yn Ewrop, gan godi proffil rhyngwladol camlesi ac afonydd Cymru.

Dywedodd y Dr Mark Lang, Cadeirydd Glandŵr Cymru – yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru:

“Mae celf gyfoes yn rhan annatod o ddatblygiadau ar y camlesi heddiw ac yn y dyfodol.

“Yn hanesyddol, mae’r celfyddydau wedi helpu i ennill cefnogwyr newydd i’r dyfrffyrdd, a bydd y rhaglen breswyl yn dod o hyd i ffyrdd creadigol newydd i gyflwyno rhagor o bobl i’r camlesi a’r afonydd fel cyfeillion a chefnogwyr ac yn cynnwys y cymunedau presennol hefyd.

“Yn y pen draw, rwy’n credu y bydd hyn yn ychwanegu at eu perthnasedd diwylliannol, gan gyfoethogi eu treftadaeth a sicrhau bod system y camlesi’n cael ei chadw yn y tymor hirach.”