Bruce Springsteen ar daith
Roedd nifer o gerbydau oedd yn cludo offer i gig Bruce Springsteen yn Leeds Arena neithiwr wedi derbyn tocynnau parcio.

Hon oedd y gig gyntaf yn y lleoliad newydd sy’n werth £60 miliwn.

Cafodd y tryciau eu parcio ar stryd ger yr Arena sy’n dal 13,500 o bobol.

Mae Cyngor Dinas Leeds wedi ymddiheuro ac wedi dweud na fydd yn rhaid talu’r ddirwy.

Maen nhw hefyd wedi addo cynnal ymchwiliad.

Does dim sicrwydd a oedd y cerbydau’n torri rheolau parcio, na chwaith beth oedd swm y ddirwy.

Dywedodd arweinydd Cyngor Dinas Leeds mai “twpdra” oedd yn gyfrifol am y digwyddiad.

“Mater o ymwybyddiaeth oedd hi.

“Mae lorïau i fod i barcio oddi ar y safle a chael eu galw i mewn i’r Arena.”

Bydd y lleoliad yn cael ei agor yn swyddogol ar Fedi 4.

Roedd y gig neithiwr yn rhan o daith byd y ‘Boss’.