Gweddillion y bws yn yr Eidal
Mae 37 o bobl wedi cael eu lladd mewn damwain bws yn yr Eidal neithiwr.

Roedd y bws yn cludo Eidalwyr yn ôl i Napoli pan gwympodd i lawr dibyn yn ne’r wlad.

Cafodd nifer o geir eraill oedd yn teithio ar bont draffordd yr A116 ger Avellino, hefyd eu taro gan y bws.

Yn ôl yr heddlu, mae’n ymddangos bod gyrrwr y bws wedi colli rheolaeth o’i gerbyd.

Cafodd 37 o gyrff eu tynnu o’r bws ac 11 o bobl eu cludo i’r ysbyty – roedd dau mewn cyflwr difrifol. Mae’n debyg bod gyrrwr y bws yn un o’r rhai fu farw.

Yn ôl adroddiadau roedd y bws yn cludo Eidalwyr yn ôl adre i drefi ger Napoli ar ôl bod ar ymweliad a Puglia.

Mae ymchwiliad ar y gweill i achos y ddamwain.