Mae tri o bobol wedi cael eu harestio wedi i ddyn gael ei drywanu i farwolaeth yn lle’r oedd prosesiwn carnifal wedi pasio heibio rai oriau ynghynt yng Nghaerloyw ddoe.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i Park End Road yng Nghaerloyw toc cyn 8yh nos Sadwrn, Gorffennaf 27, wedi adroddiadau fod rhywun wedi cael ei drywanu.

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Sir Gaerloyw, mae dau ddyn ac un ddynes wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio.