Mae tân wedi mynd allan o reolaeth ar ynys wyliau Majorca, ac mae 700 o bobol wedi gorfod gadael eu tai.

Y gwyntoedd cynnes sy’n cael y bai am beri i’r fflamau ledu tua’r dwyrain o bentre’ Estallencs ac ar hyd y bryniau coediog.

Fe ddechreuodd y tân ddydd Gwener, i’r dwyrain o borthladd Andratx. Mae 360 o ymladdwyr tân wedi bod yn ceisio ei ddiffodd, ac mae awyrennau wedi bod yn gollwng dwr o’r awyr er mwyn ceisio rhwystro’r fflamau rhag lledu.