Mae Cymru, Gogledd Iwerddon a Gogledd-ddwyrain Lloegr reit ar waelod y rhestr pan mae’n dod i nifer y tai drud – neu’r plastai – sydd ganddyn nhw, yn ôl ffigyrau gafodd eu cyflwyno yn Nhy’r Arglwyddi yr wythnos hon.

Pan ofynnodd yr Arglwydd Oakeshoot, o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol, am restr yn nodi yn lle’n union o fewn y Deyrnas Unedig y mae’r tai sy’n werth dros £2m o bunnau – ac felly’n debygol o orfod talu treth ar blastai – fe dderbyniodd yr ateb canlynol:

“Does gen y Trysorlys ddim rhestr gyflawn o’r holl dai sy’n werth dros £2m,” meddai’r Arglwydd Deighton o’r blaid Geidwadol, “ond mae modd amcangyfrif y niferoedd…

“Yn 2011-12, roedd 71% o’r tai gwerth dros £2m yn ardal Greater London, roedd 17% yn ne-ddwyrain Lloegr, ac roedd y 12% arall yng ngweddill y Deyrnas Unedig.”

Faint o dai crand, ac ymhle?

Llundain – 2,620 o dai – 71% o’r holl dai gwerth dros £2m

De Ddwyrain Lloegr – 630 o dai – 17%

Dwyrain Lloegr – 110 o dai – 3%

De Orllewin Lloegr – 120 o dai – 3%

Gogledd Orllewin Lloegr – 70 o dai – 2%

Yr Alban – 40 o dai gwerth dros £2m – 1%

West Midlands – 40 o dai – 1%

Swydd Efrog a Humberside – 30 o dai – 1%

East Midlands – 30 o dai – 1% o’r cyfanswm

Gogledd Ddwyrain Lloegr – llai na 30 o dai – 0%

Gogledd Iwerddon – llai na 30 o dai – 0%

Cymru – llai na 30 o dai – 0%