Mae pump o ddynion wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi i ddyn gael ei drywanu yn ystod cwffas yn Windsor.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i ymdrin â ffrae oedd wedi mynd allan o reolaeth yn Barry Avenue, Windsor, yn ystod oriau mân fore Sul, Gorffennaf 28.

Fe gafodd dyn 24 oed ei drywanu yn ystod y digwyddiad, ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Wexham Park yn Slough. Bu farw o ganlyniad i’w anafiadau.

“Mae’n gynnar yn yr ymchwiliad ar hyn o bryd,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyffryn Tafwys, “ond r’yn ni’n apelio ar unrhyw un welodd y ffrae, i gysylltu gyda ni.”

Mae dyn 27 oed o Harrow; dyn 26 oed o Lundain; dau ddyn 21 oed o Leighton Buzzard; ac un dyn arall wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Maen nhw’n cael eu holi gan yr heddlu ar hyn o bryd.