Carlton Hotel, Cannes
Mae dyn arfog wedi dwyn gemau gwerth tua 40 miliwn ewro (£34m) o ddinas Cannes ar y Rifiera yn Ffrainc.
Mae llefarydd ar ran yr heddlu wedi cadarnhau i’r lladrad ddigwydd mewn arddangosfa genwaith yng ngwesty’r Carlton Hotel fore Sul, Gorffennaf 28.
Mae’r cyfryngau lleol yn dweud fod y lleidr wedi dianc o’r fan gyda’r gemau mewn cês. Ond dydyn nhw ddim yn gwybod pwy oedd biau’r gemwaith.
“Mae ymgyrch frys ar waith er mwyn dod o hyd i’r lleidr ac i’r gemwaith,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu. “Mae lladron yn gweld Cannes fel y lle delfrydol i ddwyn.”