Bocsus pleidleisio yn barod ar gyfer etholiad Mali
Mae pleidleiswyr yn Mali yn troi allan i fotio heddiw, yn yr etholiad cyntaf i gael ei gynnal ers coup d’etat y llynedd.
Ond dyw hi ddim yn hawdd i’r bobol fwrw eu pleidlais, gan fod problemau technegol ac ymarferol yn plagio’r drefn o fwrw croes.
Dyw degau o filoedd o bobol sydd wedi cofrestru i bleidleisio, ddim yn ymddangos ar y rhestr etholwyr.
Yng ngogledd y wlad, er enghraifft, dim ond ychydig o bleidleiswyr sydd wedi medru ei gwneud hi heibio i siecbwyntiau sy’n cael eu gwarchod gan filwyr y Cenhedloedd Unedig.
Roedd y milwyr yn mynnu chwilio dan dyrbanau ar bennau dynion am fomiau a ffrwydron, ac yn yr un modd o dan wisgoedd a gynau hir y merched.