Effaith y tân yn nho'r Llyfrgell Genedlaethol ar Ebrill 26 eleni
Mae’r cwmni a ddechreuodd, yn anfwriadol, y tân yn nho’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn gynharach eleni, wedi dod i ben yn wirfoddol.
Ddydd Gwener, yn Abertawe, fe gynhaliwyd cyfarfod diddymu cwmni MEM Construction – ac roedd cyfreithwyr y Llyfrgell Genedlaethol yn bresennol.
Mae’r cwmni adeiladu, sydd â’i bencadlys yn Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth, wedi cydnabod mewn llythyr mai nhw oedd yn gyfrifol am ddechrau’r tân ar Ebrill 26.
Er hynny, maen nhw hefyd wedi cyflwyno bil i’r Llyfrgell am £52,000 am y gwaith gafodd ei wneud.
Ond mae’r Llyfrgell, hithau, wedi cyflwyno bil i’r cwmni – a hynny am ychydig llai na £4m. Mae’r cwmni’n dadlau y dylai yswiriant y Llyfrgell dalu am y difrod a wnaed i rai eitemau yn y tân, sut bynnag y dechreuodd.